WHR Project: The Market Strategy

(Text © Festiniog Railway Company)

Cymraeg - cliciwch yma


Most people will reach Caernarfon, the initial terminus of the Welsh Highland Railway and the most important station on the whole railway, via the recently upgraded A487 trunk road. This road connects with the A55 Euroroute expressway and the InterCity railway at Bangor. Caernarfon can thereby be reached easily from such cities as Liverpool, Manchester, Birmingham and London. Manchester International Airport is within 90 minutes drive and convenient crossings from Ireland can be made to nearby Holyhead.

The first section of railway, to Dinas, will appeal to those visiting Caernarfon and its castle. By increasing the range of attractions in the town it will encourage longer visits. Railway enthusiasts will be attracted from home and abroad to ride behind impressive locomotives operating on a new narrow gauge railway. An hourly service, with a round trip of less than an hour, is likely to be offered throughout the season plus the possibility of some out-of-season services. Patronage on this section is cautiously estimated to build up to around 30% of current visitor numbers at the castle. The short journey is expected to continue to appeal to castle and other vlsltors atter the railway extends to Rhyd Ddu, Beddgelert and Porthmadog. Markets for schools, educational and coach party traffic will be encouraged. Publicity on this introduction to the Welsh Highland Railway will help to ensure success of the whole railway.

Opening to Rhyd Ddu in 2000 will extend the benefits of the Welsh Highland Railway to all those who wish to visit the Snowdonia National Park. The railway will attract many new visitors who come to view the splendid scenery of the Gwyrfai valley and Snowdon. Walkers, climbers and cyclists can be expected to make use of the intermediate stations and halts. Hotel, retail and camping businesses, not just in the immediate vicinity of the railway, will start to notice direct benefits. An hourly service using two trains with buffet facilities is expected to operate in the high season, similar to the Ffestiniog Railway. A coach connection from Rhyd Ddu through Beddgelert to Porthmadog is planned. An extended timetable from Easter and up to October, using heated carriages, is likely to be operated to attract out-of-season visitors.

Completion between Caernarfon and Porthmadog enables the Welsh Highland Railway to form the basis of a new public transport network to protect the environment of the National Park. The network is intended to include the Ffestiniog Railway, Sherpa bus services from Beddgelert and Conwy Valley trains from Llandudno. Timetables will reflect the Swiss style of co-ordination and through ticketing. Park and Ride opportunities will be addressed in conjunction with the National Park and local authorities. Through trains to the Ffestiniog Railway are anticipated, some offering dining facilities. The Welsh Highland timetable will generally be hourly between 9am and 4pm. Some trains will complete the journey in about 90 minutes while others will call at local halts. The complete railway will provide a useful transport facility for local people who will be offered fare concessions, as on the Ffestiniog, through a residents railcard.


Project RE: Strategaeth y Farchnad

Fe fydd y rhan fwya o bobl yn cyrraedd Caernarfon, man cychwyn Rheilffordd Eryri a'r orsaf bwysica ar y rheilffordd i gyd, ar hyd y briffordd, yr A487, a gafodd ei gwella'n ddiweddar. Mae'r ffordd hon yn cysylltu â'r Ewroffordd gyflym, yr A55, a'r rheilffordd Intercity ym Mangor. Felly y peth hawsa'n y byd yw cyrraedd Caernarfon o ddinasoedd fel Lerpwl a Manceinion a Birmingham a Llundain. Mae Maes Awyr Manceinion o fewn 90 munud o deithio ac mae modd croesi'r modd yn hwylus o Iwerddon i Gaergybi gyfagos.

Fe fydd rhan gynta'r rheilffordd, i Dinas, yn apelio i'r bobl fydd yn ymweld â Chaernarfon a'i chastell. Drwy gynyddu amrywiaeth y deniadau yn y dref mi fydd yn hybu ymweliadau hirach. Fe fydd selogion y rheilffordd yn cael eu denu o'u cartrefi ac o wledydd tramor i deithio y tu cefn i'r locomotifau trawiadol fydd yn rhedeg ar reilffordd â lled cul. Mae'n bur debyg y bydd gwasanaeth trên bob awr yn cael ei gynnig drwy gydol y tymor gyda thaith ddwyffordd yn cymryd ychydig o dan awr, ac mae'n bosibl y cynigir rhai teithiau y tu allan i'r tymor. Amcangyfrifir y bydd y nifer o deithwyr ar y rhan yma o'r rheilffyrdd yn codi hyd at o gwmpas 30% o'r nifer fydd ar hyn o bryd yn ymweld â'r castell. Rhagwelir y bydd y daith fer yn parhau i ddenu ymwelwyr l'r castell a rhai ymwelwyr eraill wedi i'r rheilffyrdd ymestyn i Ryd Ddu a Beddgelert a Phorthmadog. Fe fyddwn yn cefnogi marchnadoedd ar gyfer ysgolion a thrafnidiaeth addysgiadol a phartion mewn coetshus. Fe fydd cyhoeddusrwydd ynglyn â'r cyflwyniad hwn i Reilffordd Eryri yn ein helpu i sicrhau llwyddiant y rheilffordd gyfan.

Fe fydd agor y rheilffordd i Ryd-Ddu yn y flwyddyn 2000 yn estyn bendithion Rheilffordd Eryri i bawb sy'n dymuno ymweld â Pharc Cenedlaethol Eryri. Fe fydd y rheilffordd yn denu llawer o ymwelwyr newydd fydd yn dod i weld golygfeydd ardderchog Cwm Gwyrfai a'r Wyddfa. Gellir disgwyl y bydd cerddwyr a dringwyr a beicwyr yn defnyddio'r gorsafoedd canol ffordd a'r arosfannau eraill. Fe fydd y gwestyau a'r siopau a'r busnesau gwersylla yn dechrau sylwi ar y buddion uniongyrchol, ac nid yn ymyl y rheilfforddd yn unig. Disgwylir y bydd gwasanaeth bob awr yn defnyddio dau drên gyda chyfleusterau bwyd bwffe yn gweithredu yn ystod y tymor llawn, yr un modd ag ar Reilffordd Ffestiniog. Rydym ni'n cynllunio cysylltiad bws o Ryd-Ddu drwy Feddgelert i Borthmadog. Mae'n bur debyg y byddwn yn gweithredu amserlen estynedig o'r Pasg tan fis Hydref, gan ddefnyddio coetshus â gwres er mwyn denu ymweliadau y tu allan i'r tymor.

Bydd gorffen y rheilffordd rhwng Caernarfon a Phorthmadog yn galluogi Rheilffordd Eryri i fod yn sail ar gyfer rhwydwaith teithio cyhoeddus newydd er mwyn gwarchod amgylchedd y Parc Cenedlaethol. Y bwriad yw cynnwys Rheilffordd Ffestiniog a gwasanaethau bysus Sherpa o Feddgelert a threnau Dyffryn Conwy o Landudno. Fe fydd yr amserlenni'n adlewyrchu dull y Swistir o gyd-drefnu ac o werthu tocynnau. Fe rown ni ystyriaeth i ddarpariaeth ar gyfer parcio a theithio ar y trên mewn cyswllt â'r Parc Cenedlaethol a'r awdurdodau lleol. Rhagddisgwyliwn y bydd trenau'n rhedeg drwodd i Reilffordd Ffestiniog, a bydd rhai'n cynnig cyfleusterau ciniawa. Fe fydd Amserlen Rheilffordd Eryri yn gyffredinol rhwng 9am a 4pm. Fe fydd rhai trenau'n gorffen y daith ymhen tua 90 munud, tra bydd trenau eraill yn galw mewn arosfannau leol. Fe fydd y rheilffordd gyfan yn cynnig cyfleuster teithio defnyddiol i bobl leol fydd yn cael cynnig consesiynau talu, fel ar Reilffordd Ffestiniog, drwy gerdyn teithio'r trigolion.


Back/Yn ôl
HTML conversion by Ben Fisher; last modified December 22nd, 1999